Croeso i wefan Ceisio Cartref RhCT
Croeso i CeisioCartrefRhCT. Ar y wefan yma bydd modd i chi gofrestru ar gyfer tai a gweld yr holl eiddo cymdeithasau tai sydd ar gael i'w rhentu yn Rhondda Cynon Taf drwy lenwi un ffurflen gais ar-lein. Bydd eiddo sydd ar gael i'w rhentu yn cael eu hysbysebu bob wythnos a bydd modd i chi wneud cais am yr eiddo yma ar ôl i'ch cais gael ei dderbyn ar gofrestr CeisioCartrefRhCT.
Oeddech chi'n gwybod bod bron i 5,000 o aelwydydd wedi'u cofrestru gyda CeisioCartrefRhCT yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, a'n bod ni'n dyrannu 1,100 o dai y flwyddyn ar gyfartaledd? Mae hyn yn golygu ein bod ni ddim yn gallu cynnig cartref i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud cais am dŷ ar restr aros CeisioCartrefRhCT, ac mae’r rheiny sy’n cael cynnig tŷ yn debygol o fod wedi aros am amser hir i gael eu hailgartrefu.
Yn anffodus mae'r galw am eiddo, yn enwedig llety un ystafell wely, yn sylweddol uwch na'r hyn sydd gyda ni. Oherwydd y prinder tai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf mae'r rhestr aros yn hir iawn ac mae'n bosibl na chewch chi gynnig eiddo cymdeithasau tai. Mae’n bosibl y bydd hyd yn oed pobl sydd ag angen tai brys yn gorfod aros am amser hir cyn cael eiddo.
I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd aros cyfartalog, defnyddiwch ein teclyn amser aros cyfartalog i wirio pa mor hir y gallai gymryd i chi gael eich ailgartrefu mewn gwahanol ardaloedd yn y fwrdeistref sirol. Teclyn amser aros cyfartalog
Efallai y byddwch chi hefyd am ystyried opsiynau tai eraill, e.e. llety rhent preifat.
Os ydych chi'n poeni am golli eich cartref mae gwybodaeth am ddigartrefedd ar gael yma Digartrefedd - CeisioCartrefRhCT
Os nad ydych chi'n siwr os rhentu cartref gan gymdeithas dai yw'r dewis gorau ar eich cyfer chi, mae gan y wefan yma lawer o wybodaeth am fathau eraill o dai. Mae hyn yn cynnwys rhentu gan landlord preifat neu brynu tŷ yn rhan o'n cynllun perchnogaeth cartref cost isel, Homestep. Edrychwch ar ddewislen 'Opsiynau Tai Eraill' i gael rhagor o wybodaeth.
Eich gwybodaeth bersonol
Mae'r Cyngor yn ymrwymo i gadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel a rhoi gwybod i chi sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth. I ddysgu rhagor ynglŷn â sut rydyn ni'n diogelu'ch preifatrwydd a pham rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi, darllenwch hysbysiad preifatrwydd ein gwasanaeth www.rctcbc.gov.uk/serviceprivacynotice a thudalennau diogelu data'r Cyngor www.rctcbc.gov.uk/dataprotection.